Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ysmygu ac Iechyd
Cofnodion y Cyfarfod
(Cyfarfod Blynyddol)
Manylion am y cyfarfod:
Diben: Cyfarfod blynyddol.
Yn bresennol:
1.John Griffiths AS - Senedd (Cadeirydd)
2. Simon Scheeres - ASH Cymru (Ysgrifennydd)
3. Suzanne Cass - ASH Cymru
4. Gemma Roberts - Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru
5. Joseph Carter - Asthma + Lung UK
6. Helen Poole - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (Rhoi'r Gorau i Ysmygu)
7. Andrew Bettridge (Staff Cymorth, John Griffiths AS)
8. Ryland Doyle (Staff Cymorth, Mike Hedges AS)
Agenda:
1. Ymddiheuriadau
2. Ethol Deiliaid Swyddi (Cadeirydd ac Ysgrifennydd).
3. Pleidlais bersonol i Ddeiliaid Swyddi.
4. Cyfrifon
5. Crynodeb o gyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol (Ymchwil Coleg y Brenin Llundain ar E-sigaréts).
6. Dyddiad y cyfarfod nesaf/nodau’r grŵp trawsbleidiol ar gyfer y dyfodol
Cofnodion y cyfarfod:
1. Ymddiheurodd Simon Scheeres - ASH Cymru (Ysgrifennydd) ar ran y bobl a ganlyn:
Ymddiheuriadau: Rhun ap Iorwerth AS, Mike Hedges AS, Delyth Jewell AS, Gethin Jones - Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Nicolas Webb - Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, Judy Thomas - Fferylliaeth Gymunedol Cymru, Greg Pycroft - Gofal Canser Tenovus.
2. Anfonodd Simon Scheeres o ASH Cymru (Ysgrifennydd) y pleidleisiau e-bost a ganlyn o blaid John Griffiths AS i barhau’n Gadeirydd; ac i Simon Scheeres (ASH Cymru) gymryd yr awenau gan Julie Edwards (ASH Cymru) fel ysgrifennydd.
O blaid:
Rhun ap Iorwerth AS
Mike Hedges AS
Delyth Jewell AS,
Gethin Jones - Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
Nicolas Webb - Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu
Judy Thomas - Fferylliaeth Gymunedol Cymru
Greg Pycroft - Gofal Canser Tenovus.
3. Gofynnodd Simon Scheeres o ASH Cymru (Ysgrifennydd) am bleidlais bersonol ar gyfer Deiliaid Swyddi. Roedd y canlynol o blaid John Griffiths MS i barhau’n Gadeirydd, ac i Simon Scheeres (ASH Cymru) ddod yn ysgrifennydd.
O blaid:
John Griffiths AS – Senedd (Cadeirydd)
Simon Scheeres - ASH Cymru (Ysgrifennydd)
Suzanne Cass - ASH Cymru
Gemma Roberts - Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru
Joseph Carter - Asthma + Lung UK
Helen Poole - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (Rhoi'r Gorau i Ysmygu)
Rylan Doyle (Staff Cymorth, ar ran Mike Hedges AS)
4. Dywedodd Simon Scheeres (Ysgrifennydd) mai’r unig gostau a ysgwyddwyd i’r grŵp oedd mân gostau cyfieithu, sy’n cael eu talu gan ASH Cymru.
5. Soniodd Simon Scheeres (Ysgrifennydd) am ffocws y cyfarfod diwethaf (adroddiad annibynnol ar anweddu). Soniodd Simon Scheeres am ganfyddiadau allweddol yr adroddiad, a'r rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.
6. Dywedodd Simon Scheeres (Ysgrifennydd) y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei drefnu cyn toriad haf y Senedd, gan mai dyma pryd y bydd diweddariadau ar gyfer cynllun cyflawni nesaf y strategaeth rheoli tybaco yn cael eu cyhoeddi (bydd y diweddariad hwn yn dylanwadu ar bwnc y cyfarfod nesaf).
Dywedodd Simon Scheeres fod y grŵp trawsbleidiol yn parhau i fod yn llwyfan da i rannu a throsglwyddo tystiolaeth.
Dywedodd Simon Scheeres fod ASH Cymru yn bwriadu ehangu cefnogaeth drawsbleidiol o fewn y grŵp, gyda ffocws ar aelodau ychwanegol o Blaid Cymru.